Llyr Williams
- Teitl Swydd: Cyfarwyddwr a Chyfreithiwr
- Tîm: Pennaeth Fasnachol, Elusennol ac Eglwysig
- Cymhwyster: LLB Anrh
- Dyddiad y Cymhwyster: 2006
Pennaeth Cyfraith Fasnachol, Elusennol ac Eglwysig
Meysydd arbenigedd
Mae Llŷr yn aelod o’r adran ddigynnen ac yn arwain y Tîm Cyfraith Masnachol, Elusennol ac Eglwysig. Mae Llŷr yn delio gyda phob agwedd o waith Masnachol, yn cynnwys gwaith cwmni pur ac eiddo masnachol, ac mae ganddo arbenigeddau mewn Cyfraith Elusennol a Chyfraith Eglwysig
Beth ydych chi’n ei fwynhau am eich gwaith?
Yr hyn rwy’n ei fwynhau fwyaf am fy swydd yw helpu cleientiaid i wireddu eu dyheadau, a chydweithio â nhw wrth iddynt symud i’r cam nesaf yn eu tyfiant a’u datblygiad.
Cyfrifoldebau a rolau eraill
Cafodd Llŷr ei benodi’n Gofrestrydd Esgobaethol ac yn Ysgrifennydd Cyfreithiol i Esgob Llanelwy ym mis Mawrth 2011, ac ef oedd yr unigolyn ieuengaf i ddal y swydd honno yn hanes yr Eglwys yng Nghymru, ac yn un o ddim ond chwe unigolyn yng Nghymru i gael swydd o’r fath. Cryfhaodd Llŷr ei arbenigedd drwy gwblhau Meistr y Cyfreithiau mewn Cyfraith Eglwysig (LLM(Canon)) drwy Brifysgol Caerdydd, gan gymhwyso ym mis Ebrill 2014.
Amdanoch chi
Ymunodd Llŷr â Chwmni Cyfreithwyr Swayne Johnson fel cyfreithiwr dan hyfforddiant ym mis Mehefin 2004, gan gymhwyso yn 2006. Daeth Llŷr yn Gyfarwyddwr y cwmni ym mis Hydref 2012. Yn ei amser rhydd mae Llŷr yn Ysgrifennydd Cwmni i Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru (NWIMF) ac Amgueddfa Dinbych, ac mae hefyd yn Ymddiriedolwr i Gymdeithas Cymuned Llanelwy a Llyfrgell Glasdstone ym Mhenarlâg – yr unig lyfrgell Brif Weinidogol ym Mhrydain, ac un o’r ychydig lyfrgelloedd preswyl yn y byd. Mae Llŷr hefyd yn gerddor brwd ac mae wedi canu gyda Chôr Eglwys Gadeiriol Llanelwy ers oddeutu 30 o flynyddoedd. Mae’n dal i ganu gyda chôr siambr yn ardal de Manceinion, lle mae’n byw ar hyn o bryd.
Yn siarad Cymraeg?
Ydy
I gysylltu â Llŷr:
Ffôn: 01745 818250
Email: llyrw@swaynejohnson.com