Gwarchod Eich Asedau | Swayne Johnson Cyfreithwyr
swayne johnson logo

Gwarchod Eich Asedau


Diogelu Asedau

Mae diogelu eich asedau a’ch anwyliaid yn bwysig i chi (ac felly, i ninnau hefyd).

Mae’r rhan fwyaf o bobl eisiau gwneud yn siŵr bod modd i’w hasedau basio i’w hanwyliaid heb fod mewn perygl o fynd allan o’r teulu.

Mae ysgariad, anawsterau ariannol, buddiolwyr sy’n mwynhau gwario, buddiolwyr bregus a phobl yn marw’n ifanc oll yn esiamplau o amgylchiadau sy’n gallu rhoi ein hasedau mewn perygl. Ond, gyda chyngor arbenigwyr a chynllunio gofalus, mae modd lleihau’r mwyafrif o risgiau’n fawr iawn.

Mae pobl yn defnyddio ymddiriedolaethau’n gyffredin iawn i ddiogelu asedau a buddiolwyr. Gallwn eich helpu i greu Ymddiriedolaethau yn ystod eich bywyd a/neu yn eich Ewyllys.

Yn aml iawn mae cleientiaid yn gofyn i ni a ddylent roi eu cartrefi (i blant fel arfer) yn ystod eu bywyd. Dylai cyfreithiwr da bob amser gynghori eu cleient i beidio gwneud hynny. Mae risgiau difrifol yn gysylltiedig â rhoi eich cartref neu ased o’r math yma i rywun arall. Hyd yn oed os ydych yn ymddiried yn y derbyniwr i edrych ar eich ôl chi a gadael i chi barhau i fyw yn yr eiddo bob amser (a does dim modd gwarantu hynny!) gallai pethau ddigwydd i’r derbyniwr sydd y tu allan i’w rheolaeth. Er enghraifft, gallai’r derbyniwr gael ysgariad, anawsterau ariannol neu gallai farw’n ifanc. Byddai pethau fel yma’n peryglu eich gallu i barhau yn yr eiddo.

Ar ben hynny, os byddwch yn rhoi ased/arian i rywun arall yn ystod eich bywyd, oeddech chi’n gwybod bod yr Awdurdod Lleol yn gallu naill ai ofyn i’r person hwnnw ei roi yn ôl i chi neu gallent ei drin fel petaech chi’n dal yn berchen arno fel eich bod yn gallu talu costau eich gofal?

Wrth wneud asesiad ar gyfer ffioedd gofal, gall yr Awdurdod Lleol edrych yn ôl ar unrhyw roddion yr ydych wedi eu rhoi yn ystod eich bywyd i weld a ydych wedi cael gwared ag asedau’n bwrpasol i osgoi talu am eich gofal. Byddent yn ystyried yr amgylchiadau i gyd pan wnaethoch y rhodd ac yn arbennig a oedd modd rhagweld ar y pryd y byddech o bosib angen gofal.

Ond, mae opsiynau ar gael i chi o hyd os ydych eisiau amddiffyn eich asedau rhag costau posibl am ofal. Un opsiwn yw paratoi Ewyllys Ymddiriedolaeth Budd Bywyd Hyblyg. Gallwch adael eich cyfran yng nghartref y teulu, ac hefyd unrhyw asedau yr ydych chithau’n unig yn berchennog arnynt, mewn Ymddiriedolaeth. Yna ni fydd eich gŵr neu wraig sy’n byw ar eich ôl yn berchen ar yr asedau yma ac ni all yr Awdurdod Lleol eu hystyried nhw wrth asesu ffioedd. Mae hyn yn golygu bod modd amddiffyn ystâd gyfan y gŵr/wraig gyntaf i farw.