Cyfraith Amaethyddol
Mae gennym gysylltiadau cryf gyda’r gymuned ffermio a hanes hir o gynghori ffermwyr, perchnogion tir a busnesau gwledig, felly mae gennym arbenigedd cryf iawn mewn Cyfraith Amaethyddol ac Ystadau Gwledig.
O denantiaethau amaethyddol, Strwythurau Busnes Ffermydd a Chyfraith Eiddo hyd at Gynllunio ar gyfer Olyniaeth a Threth, gall ein tîm o arbenigwyr ddarparu cymorth cyfreithiol a chyngor rhagweithiol i chi.
Trwy ein cysylltiadau arbennig gydag Ymgynghorwyr a Chwmnïau Cyfreithiol gallwn hefyd helpu gyda materion yn ymwneud â Chyfraith Cyflogaeth, Erlyniadau Llywodraeth Cymru, Cyfraith Amgylcheddol, Ffermydd Gwynt a Chyfreithiau Cynllunio.
Yn aml iawn rydym yn cynnal Seminarau a Chymorthfeydd am Olyniaeth ar Ffermydd mewn cydweithrediad ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Undeb Amaethwyr Cymru, Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad a Chyswllt Ffermio, ac mae’n bleser gennym gynnig gwasanaeth dwyieithog ar gyfer gwaith cyfreithiol amaethyddol.
Mae Pennaeth yr Adran, Caryl Vaughan, yn un o’r nifer fechan o arbenigwyr cymwysedig mewn Cyfraith Amaethyddol trwy Gymru gyfan sydd wedi derbyn dyfarniad Cymrawd i’r Gymdeithas Cyfraith Amaethyddol, a hynny yn 2009.
Eiddo Gwledig
Mae gan ein cyfreithwyr arbenigol gyfoeth o brofiad ymarferol a gallent roi cyngor cyfreithiol pragmatig i chi am bob math o faterion yn ymwneud ag eiddo. Rydym yn deall anghenion busnesau gwledig ac anghenion y bobl hynny sy’n gweithio ac yn byw mewn ardaloedd gwledig.
Gallwn roi cyngor am:
- Brynu a gwerthu ffermydd
- Rhannu tir a gwerthu darnau o dir.
- Tenantiaethau amaethyddol a mathau eraill o denantiaethau.
- Rhoi Hawddfreintiau.
- Dadleuon am derfynau tir a dadleuon perthnasol eraill
- Trwyddedau Tir Pori a ‘Chytundebau Tacio’.
- Hawliadau sy’n codi o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986
Strwythur Busnes
Mae rheoli busnes fferm yn llwyddiannus yn un peth; mae ei warchod ar gyfer y genhedlaeth nesaf yn rhywbeth hollol wahanol.
Mae’r newidiadau yn y rheolau am ryddhau eiddo amaethyddol rhag y Dreth Etifeddiant yn gallu cael effeithiau dinistriol ar fusnesau fferm. Gallwn roi cyngor arbenigol i chi am drethiant cyfalaf a rhyddhad priodol a gallwn eich helpu i adeiladu strwythur eich busnes fel eich bod yn manteisio i’r eithaf ar y prif lwfansau a chymorth sydd ar gael.
Gallwn hefyd eich helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol gydag Ewyllysiau a defnyddio Ymddiriedolaethau.
Treth Etifeddiant
Rydym yn rhoi cyngor arbenigol i ffermwyr a pherchnogion tir am Ryddhau Eiddo Amaethyddol rhag y Dreth Etifeddiant a materion perthnasol.
Rydym wedi herio Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi’n llwyddiannus lawer gwaith pan oedd anghydfod am Ryddhau Eiddo Amaethyddol, gan arbed miloedd o bunnoedd mewn Treth Etifeddiant i’n cleientiaid.
Rydym hefyd yn gwneud gwaith cynllunio bywyd sy’n gallu cynnwys rhoddion intervivo i’r genhedlaeth nesaf ac adolygiadau o strwythur busnes gan ddefnyddio Ymddiriedolaethau i leihau effaith y Dreth Etifeddiaeth ar ffermydd ac ystadau.
Treth ar Enillion Cyfalaf
Mae ein Cyfreithwyr arbenigol yn gweithio gyda chi a’ch Cyfrifyddion i leihau effaith y Dreth ar Enillion Cyfalaf lle bo’n bosibl gan ddefnyddio rhyddhad priodol.
Gallwn roi cyngor i chi am Ymddiriedolaethau a strwythurau busnes eraill, yn arbennig mewn perthynas â rhaniad ffermydd a materion cysylltiedig.
Cyfreitha
Dydy anifeiliaid ddim yn ymddwyn yn wych bob amser, a dydy peiriannau ddim yn gweithio bob tro! Mae pethau’n torri weithiau, mae hynny’n anochel, ac mae damweiniau’n digwydd.
Mae hi’n well osgoi problemau lle bo modd wrth gwrs gan ddefnyddio dogfennau sydd wedi’u paratoi’n broffesiynol, ond pan fydd pethau’n mynd o chwith gall staff cymwysedig ein Hadran Gyfreitha eich helpu i ddatrys y problemau hynny, naill ai drwy drafodaeth neu drwy’r llysoedd.
Dewiswch un o’n Cyfreithwyr cymwysedig i’ch helpu gyda’ch mater cyfreithiol.