Thinking of moving in 2016? Buying or Selling your home with Swayne Johnson Solicitors
Posted on 02 Jan 2016
P’un a ydych yn Brynwr Tro Cyntaf, yn symud tŷ neu’n symud lawr yr ysgol, prynu neu werthu eich cartref yw’r ymrwymiad ariannol mwyaf y mae’r rhan fwyaf ohonom yn ymgymryd â fo. Mae cymaint o gyfrifoldeb a phwysau yn disgyn ar eich ysgwyddau. Sut ydych chi’n cadw popeth ar y trywydd iawn heb y straen?
Gydag arbenigwr cyfeillgar wrth eich ochr, bydd eich gweithrediad yn cael y gofal a’r sylw y mae’n ei haeddu. Yn Swayne Johnson rydym yn gwneud y mwyaf o’n gwybodaeth leol, profiad ymarferol a hyfforddiant cyfreithiol i sicrhau fod popeth yn rhedeg yn esmwyth. Byddwn yn eich tywys drwy’r gweithrediad o’r dechrau hyd at y diwedd.
Mae Cyfreithwyr Swayne Johnson yn ymdrin â holl faterion cyfreithiol o brynu neu werthu eich cartref i chi. Rydym yn cysylltu â gwerthwyr tai a phartïon eraill ar eich rhan, fel eich brocer neu fenthyciwr morgais. Rydym yn ymdrin â’r holl waith papur a’r cymhlethdodau cyfreithiol ar eich rhan, er mwyn i chi gael canolbwyntio ar y symud.
Rydym yn credu fod cysylltiad personol yn bwysig. Gallwn egluro’r broses ac ateb eich cwestiynau heb ddefnyddio jargon, gan roi tawelwch meddwl i chi.
Mae’r Achrediad Cynllun Ansawdd Trawsgludo gan y Cymdeithas y Cyfreithwyr yn golygu y gallwch ddisgwyl safonau gwasanaeth uchel a annibyniaeth llwyr. Eich lles diffydd flaenaf bob amser.
Gallwn hefyd eich helpu mewn materion yn ymwneud ag eiddo eraill megis cytundebau tenantiaeth, Cyfraith Masnachol & Cwmnïol yn ymwneud â phrynu, gwerthu, prydlesu a gosod eiddo masnachol a Chyfraith Amaethyddol ar gyfer ffermwyr, tirfeddianwyr a pherchnogion busnesau gwledig.
Os am leihau’r straen o symud ac i gael mwy o wybodaeth am ein gwasanaethau, cysylltwch â ni yng Nghwmni Cyfreithwyr Swayne Johnson a gofynnwch am gael siarad ag aelod o’n Tîm Trawsgludo
Newyddion pellach - Make a Will »