Ymddiriedolaeth Elusennol
Mae Cyfreithwyr Swayne Johnson wedi bod yn cefnogi mentrau elusennol a phrosiectau cymunedol ers dros ganrif ac mae’r gefnogaeth yma wedi helpu i gynnal mudiad yr hosbis, gwaith ieuenctid, lles plant, yr henoed a llawer o brosiectau lleol eraill.
Rydym nawr wedi creu Ymddiriedolaeth Elusennol Swayne Johnson fel cyfrwng i roi cefnogaeth i’r elusennau lleol a phrosiectau llawr gwlad yma.
Er mwyn sefydlu’r gronfa, rhoddodd Cyfarwyddwyr a Chyfranddalwyr Cyfreithwyr Swayne Johnson gyfran o’u helw i’r Ymddiriedolaeth Elusennol. Bydd Cyfarwyddwyr a staff Cyfreithwyr Swayne Johnson yn parhau i godi arian tuag at y coffrau fel rhan o’u hymrwymiad i gefnogi prosiectau ac elusennau lleol wrth eu gwaith.
Mae cefnogi ein cymunedau lleol yn un o egwyddorion sylfaenol Cyfreithwyr Swayne Johnson ac yn rhan annatod o’n gwerthoedd craidd.
Mi fydd busnes Cyfreithwyr Swayne Johnson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Swayne Johnson yn cael eu cadw’n gwbl ar wahân a gallwn eich sicrhau y bydd 100% o elw dosbarthedig yr Ymddiriedolaeth ar gael ar gyfer Grantiau. Bydd Cyfreithwyr Swayne Johnson yn darparu gwasanaeth cyfreithiol ac yn rhoi o’u hamser i gefnogi bodolaeth yr Ymddiriedolaeth Elusennol ar sail pro bono.
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am yr holl weithgareddau elusennol trwy ymweld â gwefan y Comisiwn Elusennau neu drwy e-bostio elusen@swaynejohnson.com.
Sut i Wneud Cais
Ewch i’n gwefan www.swaynejohnson.com/charitabletrust. Cwblhewch a chyflwynwch y cais ar-lein neu lawrlwythwch gopi a’i anfon at elusen@swaynejohnson.com neu trwy’r post i Ymddiriedolaeth Elusennol Swayne Johnson, 2 Hall Square, Dinbych, LL16 3PA.
Beth Sy’n Digwydd Nesaf
Bydd y Panel Grantiau yn cyfarfod bob chwarter. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw’r 25ain o Fai, Awst, Tachwedd a Chwefror. Cydnabyddir eich cais ac, os bydd yn llwyddiannus, fe’ch hysbysir trwy’r post neu e-bost.